Mae Sands yn cefnogi unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth babi cyn, yn ystod neu'n fuan ar ôl genedigaeth. Mae cefnogaeth profedigaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae Sands yma i'ch helpu chi i ddewis y gefnogaeth iawn i chi. Mae rhai o'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn cynnwys Llinell Gymorth i rieni, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol; rhwydwaith o grwpiau cymorth ar draws y DU gyda chyfeillion hyfforddedig; grŵp cymorth Facebook ar-lein; Bwrdd negeseuon ar-lein Sands yn galluogi teuluoedd mewn profedigaeth i gysylltu ag eraill ac amrywiaeth eang o daflenni, llyfrau ac adnoddau eraill sydd ar gael ar-lein ac mewn print.

Er nad ydym yn cynnig cwnsela, gall ein Llinell Gymorth eich helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ar gael yn eich ardal a'ch helpu i wneud cais am atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu.

Ein Llinell Gymorth rhad ac am ddim

Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Sands yn darparu lle diogel a chyfrinachol i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth babi. P’un a fu farw eich babi ers talwm neu’n ddiweddar, rydym yma i chi.

Gellir ffonio'r llinell gymorth yn rhad ac am ddim o linellau tir a ffonau symudol ar 0808 164 3332.

Mae galwadau i'r linell gymorth yn cael eu hateb gan staff cymorth profedigaeth hyfforddedig. Os oes angen cwnsela, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cymorth gan eich meddyg teulu a all eich helpu gydag atgyfeiriad i'ch tîm lleol.

Gellir cael mynediad at gyfieithwyr iaith trwy Language Line. Os ydych yn ffonio i ofyn am gefnogaeth ar gyfer rhywun sydd ddim yn siarad Saesneg, ffoniwch ein Llinell Gymorth a bydd ein staff yn hapus i helpu.

Gellir hefyd cysylltu â thîm y llinell gymorth yn helpline@sands.org.uk

Darganfyddwch mwy am ein Llinell Gymorth yma

Yn 2017-18

Image removed.

Ap Cefnogaeth Profedigaeth Sands

Cafodd ap Cefnogaeth Profedigaeth Sands ei greu ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi marwolaeth babi.

Ei nod yw helpu rhieni a theuluoedd mewn profedigaeth i ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cefnogaeth cywir ar yr adeg gywir. Gall yr ap hefyd gael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hoffai wybod beth yw'r ffordd orau o gefnogi rhieni mewn profedigaeth a'u teuluoedd.

Dysgwch fwy am yr Ap a sut y gallwch ei lawrlwytho yma

Image removed.

Ein Grwpiau Sands

Mae llawer o rieni yn teimlo mai dim ond eraill sydd wedi profi marwolaeth babi all gynnig gwir ddealltwriaeth. Mae ein rhwydwaith ledled y wlad o dros 104 o Grwpiau cymorth lleol, sy’n cael eu rhedeg fel arfer gan rieni mewn profedigaeth ac aelodau o’r teulu, yn cynnig y cyfle i chi gwrdd ag eraill, cael cefnogaeth a rhannu eich profiad.

Mae'r rhan fwyaf o Grwpiau Sands naill ai'n cynnig cyfarfodydd cymorth rheolaidd, cymorth dros y ffôn neu gymorth e-bost.

Chwiliwch am eich Grŵp agosaf yma

Image removed.

Exit Site