Mae'n bosibl mai deall pam y bu farw eich babi yw'r cwestiwn mwyaf dybryd sydd gennych. 

Mae dwy broses allweddol a allai roi rhai atebion. Y cyntaf yw post mortem, sef ymchwiliad clinigol i ddeall beth allai fod wedi cyfrannu at farwolaeth eich babi. Mae hyn yn cael ei wneud gan batholegydd arbenigol, a elwir yn batholegydd amenedigol. Dylai uwch weithiwr gofal iechyd proffesiynol siarad â chi am eich opsiynau ar gyfer cael post mortem, yn dibynnu ar ba bryd y bu farw eich babi a’r hyn sydd eisoes yn hysbys am ei farwolaeth. Dim ond mewn achosion prin yr ymgymerir â phost-mortem heb eich caniatâd.

Y broses bwysig arall yw adolygiad ysbyty o'r gofal a gawsoch chi a'ch babi yn ystod beichiogrwydd, esgor ac ar ôl iddo gael ei eni, os bu farw eich babi ar ôl genedigaeth. Mae hyn yn rhan o ofal safonol y GIG gan y dylid adolygu marwolaeth unrhyw fabi er mwyn deall y digwyddiadau sy’n arwain at y farwolaeth, ac o gwmpas y farwolaeth. 

Isod mae dolenni lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am y ddwy broses yn ogystal ag adran Cwestiynau Cyffredin.

Post mortem

Adolygiad, ymchwiliad a chwynion

Pan fo oediadau

Cwestiynau Cyffredin i rieni sydd wedi cael profedigaeth

Exit Site